BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Coroni Ei Fawrhydi y Brenin a'i Mawrhydi y Frenhines Gydweddog

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi gŵyl banc ychwanegol ar gyfer 2023 i nodi coroni Ei Fawrhydi’r Brenin Siarl III. Bydd gŵyl y banc ar ddydd Llun 8 Mai yn dilyn y coroni ar ddydd Sadwrn 6 Mai.

Gwahoddir pobl ar draws y wlad a'r Gymanwlad i ddathlu Coroni Ei Fawrhydi y Brenin a'i Mawrhydi y Frenhines Gydweddog dros benwythnos o ddigwyddiadau arbennig rhwng 6 ac 8 Mai.

Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch gymryd rhan yng nghynlluniau Coroni Ei Mawrhydi y Brenin a'i Mawrhydi y Frenhines Gydweddog:

  • Partïon Stryd
  • Cyngerdd y Coroni
  • Ciniawau Mawr y Coroni
  • The Big Help Out
  • Pecyn Cymorth y Coroni

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Coronation of His Majesty The King & Her Majesty The Queen Consort

A yw’r gŵyl banc hwn yn golygu y gall unigolion gael y diwrnod i ffwrdd o’r gwaith?

Mae hyn yn fater i'w drafod rhwng unigolion a'u cyflogwr. Nid oes hawl statudol i gael amser i ffwrdd ar gyfer gwyliau banc, ond gall cyflogwyr gynnwys gwyliau banc fel rhan o hawl gwyliau gweithiwr. I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â gwyliau ac absenoldeb â thâl, cliciwch ar y ddolen ganlynol Holiday entitlement: Entitlement - GOV.UK (www.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.