BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Dod o hyd i gymorth ariannol ar gyfer eich busnes

Mae cymorth Coronafeirws (COVID-19) ar gael i gyflogwyr a’r hunangyflogedig; efallai y byddwch yn gymwys am fenthyciadau, gostyngiadau treth a grantiau arian parod.

Bydd adnodd ‘canfod cymorth’ newydd a lansiwyd gan Lywodraeth y DU yn helpu busnesau a phobl hunangyflogedig ledled y DU i weld pa gymorth ariannol sydd ar gael iddynt yn ystod y pandemig coronafeirws.

Mae holiadur syml yn cymryd llai na munud i berchnogion busnes ei gwblhau a bydd yn eu cyfeirio at gymorth ariannol perthnasol gan y llywodraeth. Mae’r adnodd canfod cymorth ar gael yn: https://www.gov.uk/business-coronavirus-support-finder.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.