BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Y diweddaraf am y Cynllun Cadw Swyddi

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi gwneud newidiadau i’r Cynllun Cadw Swyddi mewn perthynas â chymhwysedd gweithwyr cyflogedig:

  • gallwch chi hawlio ar gyfer gweithwyr cyflogedig a oedd yn cael eu cyflogi ar 19 Mawrth 2020 ac a oedd ar gyflogres y cynllun Talu Wrth Ennill ar neu cyn y dyddiad hwnnw; mae hyn yn golygu y byddwch chi wedi gwneud cyflwyniad RTI yn hysbysu Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi eich bod yn talu’r gweithiwr cyflogedig hwnnw ar neu cyn 19 Mawrth 2020
  • bydd gweithwyr cyflogedig a oedd yn cael eu cyflogi ar 28 Chwefror 2020 ac a oedd ar y gyflogres (h.y. eich bod wedi ein hysbysu ni ar gyflwyniad RTI ar neu cyn 28 Chwefror) ac a ddiswyddwyd neu a roddodd y gorau i weithio i chi ar ôl hynny, a cyn 19 Mawrth 2020, yn gymwys ar gyfer y cynllun hefyd os byddwch chi’n eu hailgyflogi a’u rhoi ar ffyrlo

Mae mwy o wybodaeth yn GOV.UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.