BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Croeso’n ôl, Next Gen Fest!

Os ydych chi’n gyw-entrepreneur 16-30 oed, mae’r digwyddiad yma i chi.

Cynhelir Next Gen Fest yn rhithiol eleni ar 12 Tachwedd 2021, a bydd yn llawn dop o sgyrsiau gan bobl ysbrydoledig a fydd yn rhannu eu straeon a’u gwybodaeth am redeg eich busnes eich hun fel sylfaenydd ifanc.
Bydd cynghorion gan baneli arbenigol, cyfleoedd i rwydweithio â rhai o’r un anian â chi a’r cynnig i werthu’ch syniad busnes i banel o arbenigwyr er mwyn ennill gwobr wych.

Mae’r cyfnod ymgeisio ar agor gyda chyfle i chi frolio’ch busnes (neu’ch syniad busnes) i banel o feirniaid yn ystod y digwyddiad. Bydd pedwar ymgeisydd yn cael eu dewis i gyflwyno eu syniad yn fyw ar y diwrnod, cyn i un lwcus gael ei goroni’n bencampwr Next Gen Fest 2021! 

Rhagor o wybodaeth yn Next Gen Fest 2021 | Enterprise Nation 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.