BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Adfywio Gogledd Ynys Môn

Gellir gwneud cais am grantiau bach o hyd at £7,500 i helpu busnesau a grwpiau cymunedol yn wardiau Talybolion a Thwrcelyn, a chymuned Moelfre tuag at brosiectau neu ddigwyddiadau y gellir eu cyflawni erbyn 31 Mawrth 2023.  Rhaid i’r prosiectau cyd-fynd â Cynllun Adfywio Economaidd Gogledd Ynys Môn y Cyngor.

Bydd un rownd gyda cyfanswm o £50,000.  Cynigir y grantiau ar gyfradd ymyraeth o 75%; disgwylir ymrwymiad o 25% o gyfanswm cost y prosiect gan yr ymgeisydd. Bydd cyrfaniad ‘mewn nwyddau’ yn cael ei ystyried mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft ceisiadau gan grwpiau cymunedol.

Dyddiad cau: 10 Chwefror 2023.

Cyflwynwch eich cais i  datecondev@ynysmon.llyw.cymru

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cronfa Adfywio Gogledd Ynys Môn (llyw.cymru)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.