BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Arloesi Fideos Cerddorol

Oes gennych chi syniad ar gyfer fideo cerddorol? Gwnewch gais i Gronfa Arloesi Fideos Cerddorol Prifysgol Aberystwyth. 

Mae’r gronfa ar agor i geisiadau gan artistiaid, cerddorion, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr. 

  • Cyllideb hyd at £1000
  • Cyfle i gael mentora gan Orchard (cynhyrchwyr Lŵp a Curadur ar gyfer S4C)
  • Mynediad i offer technegol a gofod stiwdio (ym Mhrifysgol Aberystwyth)

Dyddiad cau: Canol nos 4ydd o Fehefin 2023.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Themâu a Phrosiectau Ymchwil: Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth neu i drafod eich cais cysylltwch â Kate Woodward a Greg Bevan: fideos.cymru@aber.ac.uk  

Mae tîm Cymru Greadigol yn cynnig cymorth ymarferol i bob math o gynhyrchiadau ffilm a theledu, gan eich cysylltu â lleoliadau ysbrydoledig, doniau Cymru a chyfleusterau arloesol.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.