BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Bring It Back

Mae Hubbub a Starbucks wedi lansio cronfa gwerth £1 miliwn i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar ddeunydd pacio y gellir ei ailddefnyddio yn y sector bwyd a diod yn y DU, ac osgoi rhwystrau rhag ei ddefnyddio.

Maent yn chwilio am arloeswyr gyda dulliau arloesol o herio deunydd pacio untro yn y sector bwyd a diod. Mae'r gronfa eisiau cefnogi systemau ailddefnyddio sy'n wynebu defnyddwyr yn y DU mewn modelau 'dychwelyd o gartrefi' a 'dychwelyd wrth fynd'.

Os ydych chi'n teimlo bod gennych ateb i gefnogi systemau ailddefnyddio a chael gwared ar rwystrau i ddefnyddwyr a busnesau, maen nhw eisiau clywed amdano. 

Mae'r gronfa ar agor i'r mathau canlynol o sefydliadau: 

  • Elusennau 
  • Cyrff academaidd 
  • Cwmnïau Budd Cymunedol 
  • Mentrau cymdeithasol 
  • Cwmnïau cofrestredig 

Bydd y gronfa'n darparu grantiau rhwng £150,000 a £300,000 ac yn ariannu hyd at 5 o brosiectau gwahanol yn y DU. Bydd y ceisiadau'n cau am 5pm ar 24 Mehefin 2022.

I gael mwy o wybodaeth ewch i Bring It Back Fund — Home


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.