BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Celfyddydau, Iechyd a Lles

Woman painting - outdoors in a field of cows

Prosiectau celfyddydol sy'n gwella iechyd a lles pobl drwy eu cysylltu â byd natur yw blaenoriaeth ychwanegol newydd i arian loteri’r Celfyddydau, Iechyd a Lles gan Gyngor Celfyddydau Cymru o'r hydref yma.

Mae Cronfa’r Celfyddydau, Iechyd a Lles yn agored i geisiadau partneriaeth o bob rhan o'r celfyddydau, iechyd, gofal cymdeithasol, natur, sefydliadau amgylcheddol a'r trydydd sector. Mae prosiectau yn gymwys i ymgeisio o fynd i'r afael ag un neu fwy o'r problemau a'r blaenoriaethau iechyd canlynol:

  • Natur - prosiectau sy'n anelu at wella iechyd a lles pobl drwy gynyddu eu cysylltiad â byd natur drwy'r celfyddydau
  • Iechyd meddwl - gan gynnwys mynd i'r afael ag unigrwydd, ynysu cymdeithasol a phresgripsiynu cymdeithasol sy'n anelu at adeiladu gwytnwch a chefnogi gwell iechyd meddwl
  • Anghydraddoldeb iechyd - prosiectau celfyddydol sydd â’r nod o fynd i'r afael â hwn drwy ddod â manteision iechyd a lles i bobl o gefndiroedd mwy amrywiol a heb gynrychiolaeth ddigonol
  • Iechyd a lles corfforol - prosiectau celfyddydol sy'n cefnogi gwell iechyd corfforol neu sy’n cadw pobl yn gorfforol weithgar
  • Lles staff - yn y gweithlu gofal iechyd a/neu'r celfyddydau

Dylid datblygu ceisiadau gan bartneriaeth/consortiwm o sefydliadau ac artistiaid a rhaid iddynt gynnwys partner iechyd a chelfyddydol (yn ogystal â phartner natur os yw eich prosiect yn canolbwyntio ar y Celfyddydau, Iechyd a Natur). Bydd angen i un o'r partneriaid gymryd yr awenau, cyflwyno'r cais a bod yn gorff atebol o ran y cais.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11 Medi 2024.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Celfyddydau, Iechyd a Lles | Arts Council of Wales


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.