BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Gwyrddu'r Sgrîn 2024

Film production - scene filming

Bydd Cymru Werdd yn creu ymrwymiad i newid cadarnhaol trwy godi ymwybyddiaeth amgylcheddol a gwella gwybodaeth a dealltwriaeth o weithio sgrin cynaliadwy.

Gwahoddir busnesau a gweithwyr llawrydd sy’n effro i’r hinsawdd i wneud cais am hyd at £50,000, a hynny er mwyn ymchwil a datblygu (Y&D) syniadau am atebion cynaliadwy i heriau zero net a datgarboneiddio’r sector sgrîn yng Nghymru.

Ar gyfer prosiectau sy'n ymwneud â:

  • Symud i ynni adnewyddadwy mewn stiwdios, swyddfeydd a thai ôl-gynhyrchu, cael gwared yn raddol ar ddiesel ar gyfer generaduron a manteisio i’r eithaf ar effeithlonrwydd ynni ar setiau a lleoliadau.
  • Ailfeddwl trafnidiaeth drwy fapio’r her, cael gwared ar gerbydau diesel, lleihau teithio a symud dulliau teithio i’r rhai sy’n defnyddio ynni adnewyddadwy.
  • Dull cylchol o fynd i’r afael â deunyddiau a gwastraff bwyd drwy fonitro gwell i leihau gwastraff, blaenoriaethu cyflenwyr lleol ac opsiynau carbon isel ac ailddefnyddio deunyddiau ac asedau cynhyrchu.
  • Casglu gwybodaeth a chydweithio, gan gynnwys asesu cynaliadwyedd asedau a ddefnyddir wrth gynhyrchu, cymorth i gyflenwyr gwyrdd a chreu cyllidebau carbon ar gyfer cynhyrchu.
  • Gosod a gwrthbwyso modelau busnes.

Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus deuddeg mis i gwblhau eu gwaith ymchwil a datblygu, gyda chymorth ein partneriaid consortiwm Ffilm cymru Wales.

Cyfnod ymgeisio’n dod i ben: hanner dydd ar ddydd Gwener 28 Mehefin 2024.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Cronfa Gwyrddu'r Sgrîn - Media Cymru (CYM)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.