BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru

stone cottages in Beddgelert

Mae Dŵr Cymru yn gwybod y gall eu gwaith weithiau darfu ar y cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt ac rydym yn dymuno rhoi’r cyfle i’w cwsmeriaid a grwpiau lleol wneud gwahaniaeth yn y cymunedau y maent yn byw ynddynt, trwy gynnig cyllid tuag at brosiect cymunedol o’u dewis. Gall grwpiau cymunedol wneud cais am grant o hyd at £5,000 tuag at eu prosiect.

Mae enghreifftiau o brosiectau a allai dderbyn cyllid yn cynnwys:

  • Gwelliannau i’r amgylchedd neu fentrau cymunedol lleol sy’n hybu amcanion iechyd, llesiant ac amgylcheddol.
  • Gweithgareddau a gyflawnir gan grwpiau cymunedol cofrestredig – ag amcanion iechyd, llesiant, cymorth costau byw ac amgylcheddol yn benodol.
  • Gwella a chefnogi gweithgarwch addysg lleol, er enghraifft buddion effeithlonrwydd dŵr, amgylcheddol ac arloesi.

Rhoddir blaenoriaeth i’r prosiectau hynny lle mae Dŵr Cymru yn gweithio, neu wedi bod yn gweithio.


Enghreifftiau o elusennau sy’n gymwys i wneud cais:

  • Ymddiriedolaethau Elusennol - Elusen Gofrestredig
  • Cymdeithasau tai, clybiau chwaraeon, mentrau cydweithredol
  • Cymdeithasau Cyfeillgar - clybiau gweithwyr, cymdeithasau llesiannol
  • Cymdeithas Anghorfforedig - Grwpiau hunangymorth, sefydliadau bach
  • Elusennau a Eithrir - y Sgowtiaid/y Geidiaid/yr Afancod/y Brownis
  • Darparwyr gwasanaeth Sector Gwirfoddol - Canolfannau Gwirfoddolwyr
  • Ysgolion

Cronfa ar agor 1 Ionawr 2024 i 29 Chwefror 2024.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru | Dŵr Cymru Welsh Water


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.