BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa i Gymru

community group

Mae Cronfa i Gymru yn gronfa gwaddol gymunedol genedlaethol, sy’n cael ei rheoli a’i hyrwyddo gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Mae’n rhaglen hybu dyngarwch a rhoi grantiau sy’n codi arian gan bobl a sefydliadau ledled Cymru, y DU a thramor sydd am ‘roi yn ôl’ i gefnogi a chryfhau cymunedau lleol: mae’r Gronfa i Gymru yn cysylltu pobl sy’n poeni ac achosion pwysig.

Mae Cronfa i Gymru yn agored i elusennau a mudiadau gwirfoddol bach, lleol, dan arweiniad y gymuned (e.e. cymdeithasau, mentrau cymdeithasol, Cwmnïau Buddiannau Cymunedol a chlybiau), gydag incwm blynyddol o lai na £100,000.

Canlyniadau’r Gronfa:

  • Gwella cyfleoedd pobl mewn bywyd
  • Adeiladu cymunedau cryfach
  • Gwella amgylcheddau gwledig a threfol
  • Annog pobl a chymunedau iachach a mwy egnïol, a
  • Gwarchod treftadaeth a diwylliant.

Mae'r Gronfa hon yn cau ddydd Llun 16 Rhagfyr am 12pm (canol dydd).

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Cronfa i Gymru - Community Foundation Wales


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.