BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Sbarduno’r Gadwyn Gyflenwi

Off shore wind turbine engineer

Mae ddiwydiant gwynt morol y DU angen buddsoddiad mewn seilwaith ar y tir a’r arfordir. Sefydlwyd cronfa Sbarduno’r Gadwyn Gyflenwi, sydd werth £50 miliwn, er mwyn mynd i’r afael â hyn, gyda’r nod o wella cadwyn gyflenwi gwynt morol y DU.

Gall prosiectau yn y DU sy’n cefnogi ffermydd gwynt arnofiol yn y môr Celtaidd wneud cais yn awr yn y rownd gyllido gychwynnol, sydd werth £10 miliwn. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Gorffennaf 2024. Bydd y prosiectau llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi o fis Hydref 2024.

Gall y Gronfa Sbarduno gynnig hyd at £1 miliwn o gyllid cyfatebol, fesul prosiect, i brosiectau cadwyn gyflenwi'r DU er mwyn iddynt fod yn "barod am fuddsoddiad". Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys opsiwn i gymryd rhan yng nghyfnod buddsoddi cyfalaf y prosiectau llwyddiannus.

Mae £40 miliwn ychwanegol wedi'i neilltuo ar gyfer prosiectau a nodwyd yn y Cynllun Twf Diwydiannol, gyda'r nod o dreblu capasiti cynhyrchu gwynt ar y môr yn y degawd nesaf.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Supply Chain Accelerator Fund | The Crown Estate

I wneud cais, cwblhewch y ffurflen gofrestru Expression of Interest | The Crown Estate Supply Chain Accelerator

Os ydych chi am fentro i'r sector gwynt ar y môr? Mae cyfleoedd ariannu a chymorth ar gael drwy'r Bartneriaeth Twf Ynni Gwynt Alltraeth. Dewiswch y ddolen ganlynol Funding Opportunities – Offshore Wind Growth Partnership (owgp.org.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.