BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol Cam 2, Haf 2022

Bydd yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), ar y cyd ag Innovate UK KTN, yn cynnal gweminar friffio am gystadleuaeth ar-lein ar 8 Mehefin 2022 i rannu manylion am ffenestr cystadleuaeth am gyllid Cronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF) newydd Cam 2: Haf 2022.

I gael mwy o wybodaeth a chadw lle, ewch i Cofrestru – Cronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol Cam 2 Haf 2022 (cvent.com)

Mae ffenestr gystadleuaeth newydd Cam 2 ar gyfer Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon yn agor ar 30 Mai 2022 ac yn parhau tan 9 Medi 2022. Mae’n werth hyd at £70 miliwn mewn cyllid.

Bydd ar gael ar ffurf cynllun grant, a bydd yn ariannu:

  • Astudiaethau dichonoldeb a pheirianneg ar gyfer prosiectau defnydd posibl a fydd yn cyflawni effeithlonrwydd ynni neu fuddion datgarboneiddio os cânt eu gweithredu, gan alluogi’r rheiny sy’n gwneud penderfyniadau i wneud dewisiadau gwybodus am fuddsoddi 
  • Defnyddio technolegau aeddfed o ran effeithlonrwydd ynni sy’n gwella effeithlonrwydd ynni diwydiannol ac yn lleihau’r galw am ynni (TRL 8-9)
  • Defnyddio technolegau datgarboneiddio dwfn sy’n lleihau allyriadau carbon yn gysylltiedig â’r broses ddiwydiannol (TRL 7-9)

I gael mwy o wybodaeth am gystadleuaeth newydd IETF Cam 2: Haf 2022 a gweld y canllawiau i ymgeiswyr, ewch i dudalen y gystadleuaeth: Cronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF) Cam 2: Haf 2022 - GOV.UK (www.gov.uk)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.