BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Uber Busnesau Pobl Dduon 2022

Mae Enterprise Nation, Uber a Be Inclusive Hospitality yn ymuno i gefnogi cwmnïau drwy'r Gronfa Busnesau Pobl Dduon. 

Bydd y gronfa’n dosbarthu £250,000 i gwmnïau sy'n eiddo i bobl dduon yn y diwydiant arlwyo sy'n dal i frwydro i adfer yn dilyn y pandemig ac sydd nawr yn wynebu argyfyngau ynni a chostau byw. 

Gall bwytai sy'n eiddo i bobl dduon gyda llai na phum lleoliad wneud cais i'r gronfa am grant. Bydd 25 o fwytai yn derbyn £10,000 yr un, yn ogystal â mynediad at fentora gan Enterprise Nation, er mwyn rhoi hwb gwerthfawr i'w busnesau. 

Dyluniwyd y fenter i helpu bwytai annibynnol i wella eu sgiliau arwain a rheoli, datblygu strategaethau i reoli risgiau o'r tu allan i'r busnes, a chael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i adeiladu a thyfu. 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 25 Tachwedd 2022.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol https://www.enterprisenation.com/uber/black-business-fund/ 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.