BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cryfhau cymunedau Cymraeg

Stryd yr Wyddfa / Snowdon Street - road sign

Ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch wrth wraidd argymhellion polisi newydd.

Mae’r Gymraeg yn iaith genedlaethol sy’n perthyn i bob un o gymunedau Cymru, ac ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd heddiw (8 Awst 2024), cyhoeddodd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg adroddiad cynhwysfawr sy’n argymell ymyriadau polisi strategol i atgyfnerthu’r Gymraeg mewn cymunedau lle mae canran uchel o'r boblogaeth yn siarad yr iaith. Mae dynodi 'ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch' yn ganolog i’r cynigion i warchod a chryfhau'r Gymraeg fel iaith gymunedol fyw.

Sefydlwyd y Comisiwn gan Lywodraeth Cymru yn haf 2022 i ymateb i’r lleihad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg mewn cymunedau lle mae mwyafrif y boblogaeth yn siarad yr iaith, neu ble mae hyn wedi bod yn wir i tan yn gymharol ddiweddar.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ail gam y Comisiwn, sef edrych ar sefyllfa’r Gymraeg o fewn cymunedau eraill Cymru a thu hwnt.

Cliciwch ar y dolenni canlynol i gael rhagor o wybodaeth: 

Mae Helo Blod yn wasanaeth cyflym a chyfeillgar sydd yma i’ch cynghori ar sut i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn eich busnes. Ac mae’r cwbl am ddim! I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Croeso i Helo Blod | Helo Blod (gov.wales)  


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.