BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

CThEM yn annog busnesau i symud i blatfform TG tollau newydd nawr i barhau i fasnachu

Mae CThEM yn annog busnesau i symud i'w blatfform TG tollau newydd nawr i barhau i fasnachu ac mae'n ysgrifennu at fusnesau i'w cefnogi gyda'r newidiadau. 

Mae'r llythyrau a'r negeseuon e-bost yn cynnwys mwy o wybodaeth am symud i blatfform tollau sengl y DU – y Gwasanaeth Datganiadau Tollau – ac yn nodi'r camau y mae'n rhaid i fusnesau eu cymryd nawr i sicrhau y gallant barhau i fasnachu. Maent hefyd yn cyfeirio at adnoddau ar-lein i gefnogi busnesau drwy'r broses. 

P'un a ydych yn gwneud eich datganiadau eich hun neu'n defnyddio cyfryngwr, mae CThEM yn eich annog i weithredu nawr i gynllunio a gwneud eich symudiad i'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau. Gall gymryd ychydig o amser i gwblhau'r gwaith paratoi sydd ei angen, a po gyntaf y byddwch yn dechrau, yr hawsaf y bydd. 

Mae'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau yn cefnogi gwneud datganiadau mewnforio ac allforio wrth symud nwyddau i mewn ac allan o'r DU. Mae'n blatfform TG gwydn, dibynadwy a hyblyg, sy'n disodli Customs Handling of Import and Export Freight (CHIEF) a dyma gam cyntaf trawsnewid ffin y DU. 

Mae system CHIEF yn cau ar gyfer datganiadau mewnforio ar ôl 30 Medi 2022. Ar ôl 31 Mawrth 2023, bydd y gallu i wneud datganiadau allforio yn dod i ben a bydd gwasanaeth CHIEF yn dod i ben. 

I gael mwy o wybodaeth, ewch i:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.