BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfathrebu busnes – arferion gorau SMS a ffôn

Sicrhewch fod negeseuon SMS a ffôn eich sefydliad yn effeithiol a dibynadwy.

Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol wedi cyhoeddi cyngor newydd i fusnesau ar greu negeseuon i gwsmeriaid y gall pobl ymddiried ynddynt yn dilyn cynnydd mewn sgamiau negeseuon testun a galwadau ffôn. Mae’r canllawiau yn nodi sut y gall busnesau gysylltu â chwsmeriaid mewn ffordd fwy diogel ac mewn ffordd sy’n golygu y gellir gwahaniaethu rhyngddynt a thwyllwyr sy’n esgus bod yn frandiau adnabyddus y gellir ymddiried ynddynt.

Mae’r cyfarwyddyd hyn yn cynnwys negeseuon SMS a ffôn yn unig. Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol eisoes wedi cyhoeddi cyngor ar ddiogelwch e-bost ac atal negeseuon ffug.

Gellir canfod gwybodaeth i ddefnyddwyr ar sylwi ar ffug-negeseuon ar y wefan.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Business communications - SMS and telephone best practice - NCSC.GOV.UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.