BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfeirlyfr Bwyd a Diod Cymru

Mae gweithgynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn cael eu hannog i ymrestru am ddim ar gyfer cyfeirlyfr ar-lein sy’n caniatáu iddynt hyrwyddo eu cynhyrchion i brynwyr yn y DU ac ar draws y byd.

Mae Cyfeirlyfr Bwyd a Diod Cymru yn bodoli i godi ymwybyddiaeth a sbarduno gwerthiant cynhyrchion Cymru ac mae eisoes yn cynnwys cofnodion gan dros 600 o gwmnïau.

Mewn ymdrech i hyrwyddo cynhyrchu bwyd cynaliadwy ac effeithlonrwydd gwastraff, mae nodweddion newydd y cyfeirlyfr yn caniatáu i ddefnyddwyr chwilio am sgil-gynhyrchion a chwmnïau i hysbysebu gwastraff a allai fod o werth i fusnesau eraill. 

Gall cwmnïau sydd eisoes wedi’u rhestru yn y cyfeiriadur ddiweddaru eu cofnodion gyda gwybodaeth yn y meysydd hyn.

I ddarganfod mwy am gyfeirlyfr Bwyd a Diod Cymru, ewch i https://foodinnovation.wales/cyfeirlyfrau/?lang=cy 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.