BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfle i fentora menywod blaengar mewn arloesedd

Mae Innovate UK KTN yn chwilio am arweinwyr busnes a all ddarparu cefnogaeth ac arweiniad mentora am ddim i fenywod mwyaf blaengar y DU mewn arloesedd.

Ac maen nhw eisiau llunio partneriaeth ag arweinwyr o amrywiaeth o sectorau a all helpu i gyflymu uchelgeisiau busnes Enillwyr nesaf Gwobrau Merched sy’n Arloesi.

Maen nhw eisiau clywed gan ystod amrywiol o bobl o bob rhyw ac o unrhyw gefndir sy'n gallu cynnig mewnwelediad busnes strategol, arbenigedd sector a chefnogaeth broffesiynol.

Yn gyfnewid am hyn, byddwch yn dod yn aelod gwerthfawr o'r gymuned Merched sy’n Arloesi, sy'n ymroi i rymuso menywod blaengar i gyflawni eu huchelgeisiau busnes tra'n meithrin a dathlu amrywiaeth rhywedd drwy gydol arloesedd y DU. 

Os hoffech archwilio'r cyfle hwn ymhellach neu’n adnabod rhywun a allai, dylech wneud cais erbyn 19 Rhagfyr 2022. 

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Opportunity to mentor pioneering women in innovation - Innovate UK KTN (ktn-uk.org)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.