BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyflenwi’r sector cyhoeddus ar ôl diwedd y Cyfnod Pontio

Mae’r ffordd o hysbysebu cyfleoedd i gyflenwi’r sector cyhoeddus yn y DU ar fin newydd.

O 23:00 ar 31 Rhagfyr 2020, bydd gwybodaeth yn cael ei chyhoeddi ar gyfleoedd am gontractau sector cyhoeddus yn y DU, ar y gwasanaeth Find a Tender (FTS) newydd:

  • Mae FTS am ddim i’w ddefnyddio ac yn disodli swyddogaeth Tenders Electronic Daily, Cyfnodolyn Swyddogol yr UE (OJEU/TED) ar gyfer caffael yn y DU.
  • Bydd FTS yn gweithio law yn llaw â phyrth caffael presennol fel Contracts Finder, MOD Defence Contracts Online, Public Contracts Scotland, GwerthwchiGymru ac eTendersNI y gellir eu defnyddio i gyrchu ystod eang o gyfleoedd i gyflenwi’r sector cyhoeddus.
  • Bydd deiliaid cyfrif presennol Contracts Finder yn gallu defnyddio’r un manylion mewngofnodi ar Find a Tender. Gallwch gofrestru nawr fel eich bod yn barod ar gyfer ei lansiad ar 31 Rhagfyr.

Os hoffech fanteisio ar gyfleoedd contract gyda’r sector cyhoeddus yn yr UE, gallwch ddal ati i wneud hynny ar OJEU/TED.

Bydd gwybodaeth am gaffael a lansiwyd gan awdurdodau contractio’r DU cyn 23:00 ar 31 Rhagfyr 2020 ar gael ar OJEU/TED neu’r pyrth presennol a grybwyllir uchod.

Am ragor o ganllawiau ewch i wefan GOV.UK.

Anfonwch unrhyw ymholiadau at info@crowncommercial.gov.uk

Ewch i wefan GwerthwchiGymru am wybodaeth a chymorth ar sut i ennill contractau gyda’r sector cyhoeddus ledled Cymru.

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.