BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyflog Byw Cenedlaethol ac Isafswm Cyflog Cenedlaethol a diwygiadau’r farchnad lafur

Daeth Cyflog Byw Cenedlaethol 2020 i rym ddydd Mercher 1 Ebrill 2020.

Mae’r gyfres lawn o daliadau isod:

  • y Cyflog Byw Cenedlaethol i bobl 25 oed a hŷn yw £8.72 yr awr
  • yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer pobl 21 i 24 oed yw £8.20 yr awr
  • yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer pobl 18 i 20 oed yw £6.45 yr awr
  • yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed yw £4.55 yr awr
  • y gyfradd ar gyfer prentisiaid yw £4.15 yr awr

Mae diwygiadau marchnad lafur pellach hefyd yn dod i rym ar 6 Ebrill, gan wella hawliau gweithwyr yn gyffredinol.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • absenoldeb a thâl profedigaeth rhiant
  • cyfrifo tâl gwyliau
  • rhoi diwedd ar y gwendid cyfreithiol lle mae rhai cwmnïau yn gallu talu llai i weithwyr asiantaeth na staff parhaol

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.