BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyflwynwch eich ffurflen Hunanasesu yn gynharach eleni

Mae CThEM wedi gweld tuedd gynyddol yn nifer y cwsmeriaid sy'n cyflwyno eu ffurflenni Hunanasesu yn gynnar. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae nifer y cwsmeriaid sy'n dewis cyflwyno eu ffurflen ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn dreth bron wedi dyblu. 

Mae gennych tan 31 Ionawr 2023 i anfon eich ffurflen dreth Hunanasesiad at CThEM ac i dalu unrhyw dreth sy’n ddyledus, ond pam aros?  

Sut i gyflwyno eich ffurflen  

Mae'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar-lein. Ewch i GOV.UK i gael help gyda: 

  • beth fydd angen i chi ei lenwi yn eich ffurflen dreth
  • taliadau ffyrlo, grantiau Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth neu gynlluniau cymorth COVID-19 eraill   
  • beth i'w wneud os ydych wedi talu gormod o dreth
  • talu eich bil  
  • cael cymorth pellach 

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.