BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyflymydd Ynni Glân TechX

Ydych chi'n barod i TechX hybu eich busnes newydd ac ennill mwy o gefnogaeth gan ddiwydiant, cyllid a thwf? 

Gallwch nawr wneud cais ar gyfer Cyflymydd Ynni Glân TechX, sy'n darparu'r offer, y gefnogaeth a'r adnoddau sydd eu hangen ar fusnesau newydd a busnesau cyfnod cynnar ym maes ynni glân i dyfu a chefnogi'r newid. 

Mae'r cyflymydd yn rhaglen ddwys 15 wythnos ar gyfer hyd at 12 o fusnesau newydd, arloesol ym maes ynni glân sydd â photensial clir i gyflymu'r newid ynni yn sylweddol. Mae'r buddion yn cynnwys grant o hyd at £100,000 a chymorth arbenigol gan bartneriaid, mentoriaid a chysylltiadau yn y diwydiant. 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11pm ar 9 Hydref 2022.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Clean Energy Accelerator (netzerotc.com)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.