BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfnod atal y coronafeirws

Bydd “cyfnod atal byr” yn cael ei gyflwyno ar draws Cymru i helpu i ddod ag achosion o’r coronafeirws o dan reolaeth unwaith eto. Golyga hyn y bydd cyfres o fesurau ar waith o 6pm ddydd Gwener 23 Hydref tan 12:01am ddydd Llun 9 Tachwedd 2020.

Dim mynd allan, heblaw ar gyfer bwyd, addysg, gofal, iechyd neu waith, os na allwch weithio gartref.

Dim cwrdd â phobl sydd ddim yn byw gyda chi, dan do neu tu allan.

Ac wrth fynd allan, rhaid cadw pellter bob amser, golchi’n dwylo’n aml a gwisgo masg lle bo rhaid.

Darllenwch y rheolau ar-lein llyw.cymru/coronafeirws

Cliciwch yma i ddarllen y Cwestiynau Cyffredin Cyfnod atal y coronafeirws.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.