BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfnod atal y coronafeirws – Cau busnesau ac adeiladau

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru eu canllawiau ar y Busnesau a mangreoedd nad ydynt yn hanfodol y mae'n rhaid eu cau yn ystod cyfnod atal byr.

Mae'r canllawiau hyn yn ymwneud â chau busnesau'n unig. Mae hefyd yn nodi at ba ddibenion cyfyngedig y gellir cael mynediad at rai busnesau a mangreoedd sydd wedi cau.

Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i'r rhai sy'n gyfrifol am fangreoedd sy'n parhau i fod ar agor i'r cyhoedd, neu am unrhyw fangre sy'n weithle, gymryd pob cam rhesymol i leihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws a rhoi sylw i ganllawiau Llywodraeth Cymru ar yr hyn y mae hynny'n ei olygu.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Llyw.Cymru.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.