BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfnod Pontio: canllawiau newydd ar gyfer mewnforio ac allforio

Canllawiau ar gyfer Cludwyr a Gyrwyr Masnachol: Mae’r Llawlyfr ar gyfer Cludwyr wedi’i gyhoeddi fel siop un stop ar gyfer gwybodaeth allweddol am sut i baratoi cerbydau a’r cynnyrch a gludir ganddynt er mwyn parhau i deithio’n ddirwystr ar draws y ffin a helpu i leihau unrhyw amharu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan GOV.UK.  

Gwybodaeth am Ddiogelwch Trwyddedau ar ôl 1 Ionawr 2021: Mae gwybodaeth wedi’i chyhoeddi am ddiogelwch trwyddedau mewnforio ac allforio ar ôl 1 Ionawr 2021. Bydd angen darparu diogelwch trwyddedau mewn punnoedd sterling. Mae’r hysbysiad yn nodi sut y bydd angen darparu diogelwch trwyddedau ar ôl 1 Ionawr 2021. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan GOV.UK.  

Diogelu buddiannau masnachu (rheoliad rhwystro a ddargedwir) ar ôl 1 Ionawr 2021: Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi ar y drefn ar gyfer diogelu buddiannau masnachu (y rheoliad rhwystro a ddargedwir) yn y DU ar ôl 1 Ionawr 2021. Mae Deddfwriaeth Diogelu Buddiannau Masnachu yn diogelu pobl yn y DU sy’n masnachu â gwledydd sy’n cael eu heffeithio gan y defnydd alldiriogaethol o ddeddfau penodol (Sancsiynau UDA yn erbyn Iran a Cuba ar hyn o bryd). Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan GOV.UK

Pontio’r UE – Fforwm Masnachwyr a Diwydiant: Er mwyn cynorthwyo busnesau a diwydiant i baratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio, mae Fforwm Masnachwyr a Diwydiant Pontio’r UE wedi’i lansio. Mae’r Fforwm wedi’i gynllunio i roi cyfle i chi ofyn cwestiynau am y paratoadau y mae angen i chi eu gwneud nawr ar gyfer y rheolau newydd i fasnach yr UE a fydd yn dod i rym ar ôl 1 Ionawr 2021. Ewch i wefan GOV.UK i gael rhagor o wybodaeth.

Mae Porth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru yn darparu cyngor a chanllawiau pwysig i fusnesau sy’n paratoi ar gyfer pontio’r UE.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.