BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfraddau’r Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer 2021

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol o fis Ebrill 2021.

Am y tro cyntaf, bydd mwy o bobl iau yn gymwys am y Cyflog Byw Cenedlaethol, wrth i’r trothwy oedran gael ei ostwng o 25 i 23.

Yn llawn, dyma’r cynnydd:

  • Y Cyflog Byw Cenedlaethol (23+) yn codi o £8.72 i £8.91
  • Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (21-22) yn codi o £8.20 i £8.36
  • Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (18-20) yn codi o £6.45 i £6.56
  • Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (dan 18) yn codi o £4.55 i £4.62
  • Cyflog Prentisiaeth yn codi o £4.15 i £4.30

Ewch i wefan GOV.UK am ragor o wybodaeth.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.