BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfraith uchelgeisiol newydd sy’n ‘trawsnewid y sector rhentu yng Nghymru’ yn dod i rym

Mae’r newid mwyaf i gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau yn dod i rym heddiw (1 Rhagfyr), gan sicrhau rhagor o dryloywder a chysondeb wrth rentu cartref.

Gan ddiogelu buddiannau landlordiaid a thenantiaid, mae Deddf Rhentu Cartref (Cymru) 2016 yn gwella’r sefyllfa yng Nghymru ar gyfer rhentu, rheoli a byw mewn cartrefi.

Mae’n disodli amryw ddarnau cymhleth o ddeddfwriaeth a chyfraith achosion presennol, ac yn cyflwyno un fframwaith cyfreithiol clir sy’n darparu mwy o sicrwydd ar gyfer deiliaid contractau yng Nghymru nag mewn unrhyw ran arall o’r DU.

Mae rhai o’r newidiadau a gyflwynwyd yn cynnwys:

  • Ei gwneud yn ofynnol i bob landlord roi copi ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth i’r tenant (mae hwn yn amlinellu hawliau a chyfrifoldebau’r ddau barti).
  • Mae’r cyfnod ar gyfer hysbysiadau 'dim bai' yn cynyddu o ddau fis i chwe mis ar gyfer tenantiaid newydd, ac ar gyfer tenantiaid presennol o ddydd Iau 1 Mehefin. Ni fydd bellach yn bosibl i gyflwyno hysbysiad yn y chwe mis cyntaf, a fydd yn golygu bod gan bob deiliad contract 12 mis o sicrwydd ar ddechrau ei denantiaeth.
  • Dyletswydd fwy cadarn ar landlordiaid i sicrhau bod yr eiddo maent yn ei osod yn addas i bobl fyw ynddo, gan gynnwys gosod larymau mwg a charbon monocsid, a phrofi trydanol rheolaidd.
  • Mynd i’r afael â’r arfer o droi allan er mwyn dial (pan fydd landlord yn troi tenant allan am iddo ofyn am atgyweiriadau neu gwyno am amodau gwael).
  • Cyflwyno dull cyson ar draws sectorau ar gyfer troi allan mewn achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol neu drais.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cyfraith uchelgeisiol newydd sy’n ‘trawsnewid y sector rhentu yng Nghymru’ yn dod i rym | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.