BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfreithiau di-fwg – Newidiadau o 1 Mawrth 2021

Ar 1 Mawrth 2021, mae’r gyfraith ar ble gall pobl smygu yng Nghymru yn newid.

Golyga hyn y bydd yn ofynnol i dir ysbytai, tir ysgolion, meysydd chwarae cyhoeddus a lleoliadau gofal awyr agored ar gyfer plant fod yn ddi-fwg. Bydd yn drosedd smygu mewn ardal ddi-fwg a gall unrhyw un sy’n cael ei ddal yn torri’r gyfraith wynebu dirwy o £100.

Bydd y ddeddfwriaeth yn gwneud newidiadau yn y sector twristiaeth hefyd. Ar hyn o bryd, mae yna eithriadau ar waith sy’n caniatáu smygu mewn llety gwyliau hunangynhwysol a llety dros dro (bythynnod, carafanau, chalets ac Airbnb ac ati) ac mae yna eithriadau sy’n caniatáu i westai, tai llety, tafarnau, hosteli a chlybiau aelodau gael ystafelloedd gwely y gellir ysmygu ynddyn nhw. Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn cadw’r eithriadau hyn, ond am gyfnod cyfyngedig yn unig (tan 1 Mawrth 2022). Mae’n ei gwneud yn ofynnol hefyd fod ystafelloedd gwely dynodedig mewn gwestai y gellir ysmygu ynddyn nhw cyn 1 Mawrth 2022, yn bodloni gofynion penodol.

Felly, o 1 Mawrth 2022, bydd yn ofynnol i bob math o lety gwyliau hunangynhwysol a llety dros dro a phob gwesty, tŷ llety a thafarn ac ati fod yn ddi-fwg. 

Am ragor o wybodaeth ewch i Llyw.Cymru.


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.