BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfreithloni cofrestriadau priodasau a phartneriaethau sifil awyr agored

Mae seremonïau priodasau a phartneriaethau sifil awyr agored ar fin cael eu cyfreithloni am y tro cyntaf – gan gynnig rhagor o ddewis i gyplau a rhoi hwb i’r sector priodasau. 

O dan ddeddfau presennol ar gyfer eiddo cymeradwy fel gwesty, mae’n rhaid cynnal y seremoni briodas neu bartneriaeth sifil gyfreithiol mewn ystafell gymeradwy neu adeiledd parhaol. Bydd hyn yn newid fel bod modd i gwpl gynnal y seremoni gyfan y tu allan i leoliad o’r fath.

Bydd y newid hwn yn cynnig mwy o ddewisiadau i gyplau o ran sut y maen nhw’n dathlu ac yn cynnal y diwrnod mawr trwy sicrhau bod modd cynnal pob agwedd ar briodas yn yr awyr agored o 1 Gorffennaf 2021 ymlaen. Bydd hyn yn darparu mwy o hyblygrwydd, yn enwedig yn ystod y pandemig pan fo angen ystyried llawer o faterion iechyd y cyhoedd.  

Am ragor o wybodaeth, ewch i  GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.