Mae pecynnau adnewyddu blynyddol yn cael eu hanfon allan gan Gyllid a Thollau EM (CThEM).
Bydd y pecynnau'n cael eu hanfon allan hyd at 27 Mai 2022, ac mae gan gwsmeriaid tan 31 Gorffennaf 2022 i wirio bod eu manylion yn gywir a diweddaru Cyllid a Thollau EM os bu newid yn eu hamgylchiadau.
Mae credydau treth yn helpu teuluoedd sy'n gweithio gyda chymorth ariannol wedi'i dargedu, felly mae'n bwysig nad yw pobl yn colli allan ar arian y mae ganddynt hawl iddo.
Gall cwsmeriaid adnewyddu eu credydau treth am ddim trwy neu ar ap CThEM.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i GOV.UK