BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyllid ar gyfer her bwyd cynaliadwy

Vegetable farmer arranging freshly picked produce into a crate on an organic farm

Mae'r Her yn chwilio am atebion arloesol a allai gynyddu cynhyrchiant cynaliadwy bwyd a dyfir yn lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. 

Nod yr Her, sy'n bartneriaeth rhwng Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Cyngor Caerdydd, Cyngor Sir Fynwy, Llywodraeth Cymru, a Chanolfan Ragoriaeth SBRI (Menter Ymchwil Busnesau Bach) yw dod o hyd i fusnesau a sefydliadau eraill sydd â syniadau sy'n canolbwyntio ar un o'r meysydd canlynol:

  • Dulliau i annog a gwella gwybodaeth mewn ysgolion am fanteision iechyd cyrchu bwyd gan gadwyni cyflenwi bwyd lleol.
  • Offer masnachu integredig deinamig sy'n gwneud y gorau o gyflenwi a dosbarthu cyflenwadau bwyd lleol.
  • Gwneud y mwyaf o gynhyrchu ynni adnewyddadwy a defnydd lleol o asedau fferm (a thyfu) tra'n cynnal cynnyrch amaethyddol.
  • Arferion ffermio arloesol i leihau allyriadau carbon a chynyddu cynhyrchiant.

Bydd yr her yn cael ei chynnal mewn dau gam. Bydd cam un yn gam 'arddangos' lle bydd hyd at £800,000 fesul prosiect ar gael i sefydliadau llwyddiannus i'w galluogi i ddangos bod eu syniad yn gweithio ac yn hyfyw. Anogir ymgeiswyr i ystyried prosiectau ar amrywiaeth o opsiynau cyflenwi a chyllidebau hyd at y mwyafswm hwn.

Bydd cam dau yn gam 'cynyddu', lle gall y syniadau cryfaf gyrchu hyd at £1 miliwn fesul prosiect. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cael ei ddefnyddio i ddangos y gellir gweithredu eu datrysiadau’n llwyddiannus ar raddfa sylweddol.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10am ar 9 Hydref 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Dynamic integrated trading tools that optimise the supply and distribution of local food supplies | SBRI Centre of Excellence (simplydo.co.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.