BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyllido Cymru

Cyllido Cymru yw'r llwyfan i chwilio am gyllid i'r trydydd sector yng Nghymru. Fe'i datblygwyd gan rwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru i alluogi mudiadau trydydd sector i chwilio drwy gannoedd o gyfleoedd am grantiau ac arian benthyg o ffynonellau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Gall Cyllido Cymru helpu mudiadau yng Nghymru i ddod o hyd i'r cyllid sydd ei angen arnynt yn gynt nag erioed o'r blaen. Mae'r peiriant chwilio yn helpu defnyddwyr i ganfod ffynonellau perthnasol o gyllid yn gyflym ac yn effeithiol. Mae'r wefan ar gael yn rhad ac am ddim, mae ganddi broses gofrestru syml, ac mae modd i fudiadau chwilio am gyllid yn ôl diben, lleoliad a swm, ac mae meysydd pellach ar gael i fireinio canlyniadau chwilio. Mae modd i ddefnyddwyr hefyd gadw canlyniadau chwilio ac argraffu adroddiadau.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Cyllido Cymru (funding.cymru)

Canfod Cyllid

Gall darganfod ble i fynd i ganfod cyllid a dewis y math cywir fod yn anodd. Mae’n adnodd cyllid yma i helpu:

  • Defnyddiwch ein Canfyddwr Cyllid i i ganfod opsiynau cyllid sy'n berthnasol i'ch busnes
  • Darllenwch am Banc Datblygu Cymru benthyciwr unigryw i fusnesau yng Nghymru
  • Darllenwch ganllawiau yn egluro'r gwahanol fathau o gyllid
  • Canfod gwybodaeth am weithio gyda chyfrifwyr

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.