BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

‘Cymdeithas yw’r Anabledd’: Beth mae hyn yn ei olygu i’ch busnes?

Dyma gyfle i gymryd rhan yng ngweminar Hive Chwarae Teg lle y bydd cyflogwyr ledled Cymru yn trafod adroddiad diweddar Chwarae Teg, ‘Cymdeithas yw'r Anabledd’, sy’n ystyried profiadau menywod anabl o economi Cymru.

Bydd cyfle i ddysgu am fanteision busnes cyflogi unigolyn ag anabledd dysgu, a chael gwybod sut mae rhaglen y model ‘Ymgysylltu i Newid’ yn gallu cynorthwyo cyflogwyr a gweithwyr sydd ag anabledd dysgu.

Cynhelir y weminar ddydd Iau18 Mawrth 2021 rhwng 10.30am a 12pm. Cofrestrwch ar gyfer y weminar yma


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.