Mae rheolaethau tollau llawn bellach ar waith ar gyfer masnachu rhwng Prydain Fawr (Cymru, yr Alban a Lloegr) a'r Undeb Ewropeaidd (UE).
Mae hyn yn golygu y bydd angen datganiadau tollau llawn a thalu’r tariffau perthnasol ar bob nwydd sy'n cael ei fewnforio gan eich cleient o'r UE, ar adeg mewnforio.
Symud nwyddau rhwng Iwerddon a Phrydain Fawr
Bydd y trefniadau presennol yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer nwyddau nad ydynt yn cael eu rheoli, sy'n symud o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr drwy Iwerddon tra bod y trafodaethau ar Brotocol Gogledd Iwerddon yn parhau.
Mae hyn yn golygu y gallwch barhau i oedi cyn gwneud eich datganiadau tollau am hyd at 175 diwrnod, cyn belled â'u bod yn cofnodi hyn yng nghofnodion y datganydd wrth fewnforio.
Os oes gennych chi gwestiwn penodol am fewnforio, allforio neu ryddhad tollau
Ffoniwch linell gymorth Tollau a Masnach Ryngwladol ar 0300 322 9434. Mae'r llinell gymorth ar agor rhwng 8am a 10pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac o 8am i 4pm ar benwythnosau. Gallwch hefyd anfon eich cwestiynau neu gysylltu â'r gwasanaeth drwy sgyrsfan ar y we.
Llinell gymorth i fusnesau'r DU gael atebion i gwestiynau ymarferol am allforio i Ewrop yw'r Export Support Service. Mae'n wasanaeth 'siop un stop' sy'n dwyn ynghyd holl wybodaeth llywodraeth y DU, sy'n ei gwneud hi’n haws i allforwyr gael gafael ar gyngor a chymorth.
Gweminarau a chanllawiau fideo
Mae gan sianel YouTube HMRC fideos am brosesau'r tollau a'r hyn sydd angen i'ch cleientiaid ei wneud os ydyn nhw'n prynu, yn anfon neu'n gwerthu nwyddau gyda'r UE.
Mae hyn yn cynnwys:
- Getting someone to deal with customs for you – how freight forwarders can help
- What are controlled goods?
- What are commodity codes?
Hefyd, mae fersiynau wedi'u recordio o weminarau, sy'n ymdrin â phynciau fel:
- Rules of origin
- How to import
- Customs Import Declarations: an overview
- Exporting: what you need to do to keep your goods moving
Hefyd ceir weminarau a fideos gan adrannau eraill y llywodraeth am fasnachu gyda'r UE.
Gwybodaeth ddefnyddiol:
- recordiad o weminiarau ar dudalen cymorth CThEM ar bontio o'r UE
- darllen canllawiau diweddaraf neu fynd i fforymau cwsmeriaid
- cofrestru ar gyfer Trader Support Service os ydych chi'n symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Gallwch gael gafael ar fodiwlau hyfforddi a gweminarau ar-lein am gymorth gyda Phrotocol Gogledd Iwerddon.