BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynhadledd archwilio Allforio Cymru

Cynhelir cynadleddau Archwilio Allforio Cymru ddydd Iau 9 Mawrth 2023 yn Stadiwm Dinas Caerdydd a dydd Iau 16 Mawrth 2023 yng Ngwesty’r Village St David's, Glannau Dyfrdwy.

Byddant yn cynnwys sesiynau un-i-un gyda chynrychiolwyr o farchnadoedd tramor, seminarau ar allforio, arddangosfeydd, a pharth allforio penodedig gan Lywodraeth Cymru, lle gall busnesau archwilio ein hoffer digidol a chwrdd â'n Cynghorwyr Masnach Ryngwladol.  

Os yw eich busnes yn allforio ar hyn o bryd neu'n ystyried mentro i farchnadoedd tramor newydd, trwy fynychu'r gynhadledd byddwch yn derbyn cyngor ac arweiniad ar bob agwedd ar fasnachu yn y farchnad fyd-eang.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer un o gynadleddau 2023, cliciwch ar y ddolen ganlynol Archwilio Allforio Cymru | Hafan (eventscase.com) 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.