BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynhadledd BEYOND 2022

Bydd 5ed cynhadledd flynyddol BEYOND yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd, ac ar-lein rhwng 18 a 20 Hydref 2022. 

Mae BEYOND yn gasgliad unigryw, blynyddol o arloeswyr y presennol a’r dyfodol sy'n canolbwyntio ar Ymchwil a Datblygu ar draws y Diwydiannau Creadigol, gan ddod ag ymchwilwyr, gwneuthurwyr, buddsoddwyr, arweinwyr busnes, a meddylwyr sy'n arwain y byd at ei gilydd. 

Bydd thema cynhadledd eleni yn mynd i'r afael â chwestiynau sy'n hanfodol i'n diwydiannau creadigol yn y dyfodol, gan ofyn pa ran ddylai'r diwydiannau creadigol ei chwarae wrth ddylunio dyfodol di-garbon?

Mae'r gynhadledd yn cynnig mynediad i gynulleidfa fyd-eang at amserlen o siaradwyr arbenigol, prif anerchiadau, trafodaethau panel, darnau meddwl a phryfociadau, yn ogystal â sesiynau holi ac ateb a chyfleoedd rhwydweithio. 

I gael mwy o wybodaeth, ewch i BEYOND 2022 - Beyond Conference


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.