BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynhadledd Busnesau Bach De Cymru 2023

Aerial view of the village of Cwm in Ebbw Vale, South Wales

Cynhelir cynhadledd flynyddol y Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) yn ne Cymru ar 26 Hydref 2023 yng Ngwesty'r Village, Caerdydd.

Cynlluniwyd sesiynau cynhadledd y bore i ychwanegu gwerth at eich busnes gan gwmpasu pynciau fel cydnerthedd meddwl, parhad busnes, sicrhau profiad cadarnhaol i gwsmeriaid, a 'gwneud y peth iawn' mewn busnes. Yn y prynhawn, bydd sesiynau'n cynnwys dysgu am dueddiadau sy'n dod i'r amlwg yn y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer busnes a sut i wella gweithgarwch marchnata digidol.

Hefyd yn bresennol bydd stondinau masnach cymorth busnes a llawer o gyfleoedd ar gyfer rhwydweithio a chyfarfodydd un-i-un.

Mae tocynnau cymorthdaledig ar gael am £10 y pen a bydd gwerthiant tocynnau yn cau ddydd Iau, 19 Hydref 2023. 

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol South Wales Small Business Conference | FSB, The Federation of Small Businesses
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.