BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynhadledd Busnesau Bach FSB Gogledd Cymru

Ymunwch â'r Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) yn y digwyddiad rhad ac am ddim hwn i glywed sut y gallwch dyfu eich busnes yn 2022 gyda'u digwyddiad Bŵt-camp a Rhwydweithio. 

Mae'r gynhadledd yn rhoi'r ffocws ar fusnesau bach yng ngogledd Cymru ac yn tynnu sylw at yr offer sydd eu hangen ar berchnogion busnes i oroesi a ffynnu yn ystod y cyfnod anodd hwn. Ymwelwch â stondinau sefydliadau cymorth busnes yn y digwyddiad, rhwydweithio gyda phobl fusnes o'r un meddylfryd a chael eich hysbrydoli a'ch hysbysu gan yr ystod o siaradwyr. 

Bydd tair sesiwn drwy gydol y dydd yn archwilio'r cymorth y gall eich busnes ei gael gan sefydliadau fel FSB, Busnes Cymru, colegau lleol a Banc Datblygu Cymru. Dysgwch hefyd sut y gall brandio proffesiynol a chysylltiadau cyhoeddus helpu eich busnes bach i hedfan!  

Cynhelir y gynhadledd ar 14 Gorffennaf 2022 yn Nolgarrog, Conwy. 

I gael mwy o wybodaeth ac i drefnu lle, ewch i FSB North Wales Small Business Conference | FSB, The Federation of Small Businesses
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.