BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynhadledd Emerging Tech Fest 2021

Digwyddiad 3 diwrnod yw Emerging Tech Fest 2021 a fydd yn arddangos rhywfaint o’r dechnoleg fwyaf cyffrous yng Nghymru a thu hwnt

Arweinyddiaeth agweddau ystyrlon, cysylltiadau gwerthfawr ac arloesi sy’n torri tir newydd, bydd y profiad digwyddiad rhithwir hwn yn dangos sut mae’r sector technoleg arloesi yn gweddnewid bywydau a diwydiannau. O ficrofusnesau i gorfforaethau rhyngwladol, mae gan Emerging Tech Fest rywbeth i bawb.

Mae Covid-19 wedi tynnu sylw at bwyntiau pwysig o ran ffyrdd o weithio ond mae cyfleoedd i addasu nawr a gwthio’ch busnes tuag at ddyfodol effeithlon a chynaliadwy. Yn ystod y digwyddiad rhithwir hwn bydd cyfleoedd di-ri i alluogi’ch busnes i barhau i fod yn gadarn.

Cynhelir y digwyddiad rhwng 26 Ionawr a 28 Ionawr 2021 a gallwch gofrestru am ddim.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Emerging Tech Fest.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.