BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynhadledd FSB De Cymru 2022 – Tyfu Eich Busnes

Bydd ail Gynhadledd flynyddol Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) De Cymru, yn benodol ar gyfer busnesau bach yn y rhanbarth, yn helpu perchnogion a rheolwyr i ddeall sut y gallant dyfu eu busnesau. 

Bydd y gynhadledd yn dod â busnesau ac arbenigwyr ynghyd i ganolbwyntio ar sut y gall busnesau bach gyflymu eu twf mewn ffordd barhaus a chynaliadwy. 

Bydd sesiynau amrywiol drwy'r dydd yn helpu busnesau i ddeall: 

  • Sut y gallant amlygu opsiynau strategol a chynllunio ar gyfer twf 
  • Sut y gallant gynllunio eu taith tuag at sero net 
  • Mathau amrywiol o gyllid i gynorthwyo twf 
  • Sut i ddatblygu cynllun marchnata a gwerthu addas i gefnogi twf 
  • Sut i ddatblygu tîm ymroddedig o fewn busnes i hwyluso twf 
  • Sut y gall lobïo, digwyddiadau a buddion aelodau Ffederasiwn y Busnesau Bach gefnogi busnesau wrth iddynt dyfu 

Cynhelir y gynhadledd ar 8 Medi 2022 ym Merthyr Tudful. 

I gael mwy o wybodaeth ac i drefnu lle, ewch i Digwyddiadur Busnes Cymru - FSB South Wales Conference 2022 - Growing Your Business, Digwyddiadau (business-events.org.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.