BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynhadledd Mae Gogledd Cymru ar Agor i Fusnes 2020 – Y Pŵer o Newid Positif

Cynhelir Cynhadledd flynyddol ‘Mae Gogledd Cymru ar Agor i Fusnes’ ar-lein eleni.

Bydd sesiwn holi ac ateb gyda pherchnogion busnes sydd wedi mynychu’r rhaglen Rheolaeth ac Arweinyddiaeth 20Twenty, ynghyd ag arweinyddiaeth ION, gyda chyfle i glywed am y ffyrdd arloesol y maen nhw wedi newid ac addasu eu busnesau a sut mae’r dyfodol yn edrych.

Bydd pob math o faterion a phynciau yn cael eu trafod, gyda goleuni’n cael ei daflu ar arweinyddiaeth a syniadau busnes ac mae’r gynhadledd yn gyfle i ddathlu cyflawniadau’r cwmnïau ac unigolion sydd wedi cymryd rhan ac i ddangos yr effaith y mae rhaglenni Prifysgol Bangor wedi’i chael ar fusnesau ledled y Gogledd.

Cynhelir y digwyddiad am ddim ddydd Iau 10 Rhagfyr 2020 rhwng 10am a 3pm.

Am ragor o wybodaeth ac i gadw’ch lle, ewch i wefan Eventbrite.

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.