BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynhadledd Rithwir Allforio Cymru


Bydd cynhadledd rithwir Allforio Cymru yn rhoi amrywiaeth o wybodaeth a chyngor i allforwyr newydd a’r rhai sydd eisoes yn allforio ar bob agwedd ar allforio a sut y gall Llywodraeth Cymru helpu eich busnes.

Yn y gynhadledd rithwir hon cewch gyfle i wneud y canlynol:

  • Mynychu gweminarau – bydd y rhain yn ymdrin â phynciau allforio sy’n trendio.
  • Cymryd rhan mewn Trafodaethau Bord Gron – bydd y rhain yn cael eu cynnal gan arbenigwyr pwnc, gan roi cyngor manwl ar rai o'r materion mwyaf cyffredin sy'n ymwneud ag allforio.
  • Cyfarfodydd un-i-un – trefnwch gyfarfodydd un-i-un gyda Harbenigwyr Marchnad o Swyddfeydd Tramor Llywodraeth Cymru.
  • Cael cyngor un-i-un – trefnwch gyfarfod un-i-un gyda Chynghorydd Masnach Ryngwladol i drafod eich gofynion allforio.

Mae'r gynhadledd rithwir yn cael ei chynnal rhwng 9 Mawrth a 11 Mawrth 2021.

Ewch i Digwyddiadaur Busnes Cymru i archebu eich lle.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.