BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynigion i wneud yr amgylchedd bwyd yn iachach

Child looking at a supermarket fridge holding drinks

Mae Llywodraeth Cymru eisiau eich barn ar Reoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Lleoli) (Cymru). Rydym hefyd yn galw am dystiolaeth am yfed diodydd egni gan blant.

Mae 2 ran i’r cyhoeddiad hwn:

  • Rhan 1: ymgynghoriad sy'n ceisio barn ar y rheoliadau drafft a'r dull gorfodi ar gyfer Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Lleoli) (Cymru).
  • Rhan 2: galwad am dystiolaeth sy’n gofyn am dystiolaeth yn ymwneud ag yfed diodydd egni gan blant.

Nod y rheoliadau drafft arfaethedig yw sicrhau mai’r dewis iach yw’r dewis hawsaf i ddefnyddwyr Cymru drwy wneud y canlynol:

  • Cyfyngu ar hyrwyddiadau pris ar sail swmp o gynhyrchion â lefelau uchel o fraster, halen a siwgr sy’n gallu annog pobl i orfwyta. Mae hyn yn cynnwys cynigion amleitem (er enghraifft prynu un eitem a chael un arall am ddim) a chyfleoedd i ail-lenwi diodydd meddal llawn siwgr am ddim.
  • Cyfyngu ar leoli cynhyrchion bwyd a diod â lefelau uchel o fraster, halen a siwgr mewn lleoliadau gwerthu allweddol, sy’n cynnwys wrth fynedfeydd siopau, wrth y desgiau talu ac ar ben yr eiliau. Gall hyn arwain at bŵer plagio a phrynu cynhyrchion â lefelau uchel o fraster, halen a siwgr ar fympwy.
  • Rydym hefyd yn manteisio ar y cyfle i alw am dystiolaeth sy'n ymwneud ag yfed diodydd egni gan blant er mwyn deall yr effeithiau’n well, gan gynnwys yr effeithiau ar y gymdeithas ehangach.

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 23 Medi 2024.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Cynigion i wneud yr amgylchedd bwyd yn iachach | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.