BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun cymorth morgeisi newydd i helpu perchnogion tai i aros yn eu cartrefi

Streets in Caernarfon

Heddiw (7 Tachwedd 2023), bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, yn cyhoeddi'r cynllun cymorth morgeisi, Cymorth i Aros Cymru, pecyn ariannu newydd ar gyfer perchnogion tai yng Nghymru sy'n cael anhawster talu eu morgais.

Gan fod cyfraddau llog, costau ynni, a chostau byw yn codi, mae methu â thalu ad-daliadau morgais yn realiti sy'n wynebu llawer o berchnogion cartrefi.

Yn rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, gwnaed ymrwymiad i edrych ar Forgeisi Awdurdodau Lleol.

Cafodd Cynllun Cymorth i Aros Cymru ei ystyried yn ystod trafodaethau am y farchnad forgeisi ac am sut y gallwn ddarparu cymorth wedi'i dargedu.

Yn ystod 2022-23 a 2023-24, darparodd Llywodraeth Cymru fwy na £3.3 biliwn o gymorth i helpu pobl sy'n cael trafferth gyda chostau byw drwy raglenni wedi'u targedu a oedd yn rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl.

Yn rhan o'r cytundeb cyllideb gyda Phlaid Cymru ar gyfer 2023-24, rydym wedi trefnu bod £40 miliwn o gyllid cyfalaf ad-daladwy ar gael yn ystod y flwyddyn hon a'r flwyddyn nesaf i gyflwyno cynlluniau a fydd yn darparu cymorth ariannol hyblyg.

Bydd Cymorth i Aros Cymru yn gweithio ochr yn ochr â chymorth a gynigir gan ddarparwyr morgeisi drwy Siarter Morgeisi'r DU i gwsmeriaid sy'n ei chael yn anodd fforddio eu taliadau morgais.

Bydd y Cynllun yn cynnig opsiwn i berchnogion cartrefi sy'n ei chael yn anodd fforddio eu taliadau morgais ac sydd mewn perygl difrifol o golli eu cartref. Bydd yn gwneud hynny drwy gynnig ad-dalu rhan o falans morgais sydd ganddynt eisoes drwy roi benthyciad ecwiti cost isel sy'n cael ei ddiogelu drwy ail arwystl (i'w dalu ar ôl talu benthyciwr yr arwystl cyntaf), gan leihau'r ad-daliadau morgais diwygiedig i lefel y gall yr ymgeisydd ei fforddio.

Bydd y Cynllun yn cael ei weithredu gan Fanc Datblygu Cymru a bydd yn ddi-log am y pum mlynedd gyntaf.

Pwrpas y Cynllun yw lleihau nifer y perchnogion tai sydd mewn perygl o weld eu cartrefi'n cael eu hadfeddu ac o fod yn ddigartref, drwy roi amser iddynt ddatrys y problemau ariannol sylfaenol sy'n eu hwynebu.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddoleni ganlynol:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.