BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi

heart shape map of Wales and a recycling symbol

Mae Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS) yn rhaglen ariannu grantiau i helpu cymunedau sy'n byw o fewn pum milltir i orsafoedd trosglwyddo gwastraff neu safleoedd tirlenwi penodol i weithredu dros eu hamgylchedd lleol.

Mae'r cynllun bellach ar agor ar gyfer ceisiadau am brif grantiau rhwng £5,000 a £49,000 a phrosiect 'o bwys cenedlaethol' gyda gwerth rhwng £50,000 a £250,000.

Bydd y gronfa ar agor i unrhyw sefydliad ar gyfer prosiectau sy'n canolbwyntio ar un neu fwy o'r themâu canlynol:

  • Bioamrywiaeth – creu rhwydweithiau ecolegol gwydn er budd amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau.
  • Lleihau gwastraff a dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi – hyrwyddo ymwybyddiaeth ac arfer gorau i leihau faint o wastraff sy'n cael ei gynhyrchu.
  • Gwelliannau amgylcheddol ehangach – dod â budd cymunedol ehangach trwy wella ansawdd lle.

Ar gyfer y rownd hon o Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, mae dau ddyddiad cau – bydd hyn yn galluogi i geisiadau gael eu hasesu'n brydlon pan fyddant yn cyrraedd.

  • Os hoffech i'ch cais gael ei ystyried fel rhan o ffenestr 1, cyflwynwch ef erbyn 20 Rhagfyr 2024.
  • Os hoffech i'ch cais gael ei ystyried fel rhan o ffenestr 2, cyflwynwch ef erbyn 7 Chwefror 2025.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi 

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (gov.wales).  


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.