BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun Effeithlonrwydd Ynni

solar panels

Mae’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni yn helpu mudiadau gwirfoddol i wella effeithlonrwydd ynni eu heiddo drwy ddarparu cyngor, cyllid ac arbenigedd.

Mae’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni yn darparu:

  • Grantiau o hyd at £1,000 tuag at arolwg ynni yn eich eiddo
  • Grantiau o hyd at £25,000 tuag at gyfanswm o 80% o’r gost o ymgymryd â’r gwaith a nodir
  • Benthyciadau i dalu am unrhyw gostau gosod sydd ar ôl
  • Cysylltiadau â mudiadau sydd eisoes yn gweithio’n agos gyda’r sector gwirfoddol ac sy’n gallu cynnal arolygon, rhoi cyngor a gosod

I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn, rhaid i’ch mudiad fod:

  • Wedi’i gyfansoddi’n addas gyda strwythur llywodraethu cydnabyddedig
  • Yn berchen ar ei eiddo rhydd-ddaliadol ei hun neu â lesddaliad hir (o leiaf 25 mlynedd)
  • Â bil ynni blynyddol o £10,000 y flwyddyn o leiaf
  • fewn Cymru

Mae cylch un y grantiau arolwg ynni ar agor nawr tan 15 Ionawr 2024, 12pm.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cynllun Effeithlonrwydd Ynni - CGGC (wcva.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.