BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun grant Allwedd Band Eang Cymru

Mae Allwedd Band Eang Cymru yn darparu grantiau i ariannu costau gosod cysylltiadau band eang newydd mewn cartrefi a busnesau yng Nghymru, neu ariannu’r costau hynny’n rhannol. Nid yw’r grant yn cynnwys costau rhedeg.

Rhaid i gysylltiadau newydd drwy’r cynllun hwn sicrhau newid sylweddol mewn cyflymder. Rhaid i’r cysylltiad newydd o leiaf ddyblu eich cyflymderau lawrlwytho cyfredol.

Mae’r cyllid y gallwch ei dderbyn yn dibynnu ar gyflymder y cysylltiad newydd:

  • £400 ar gyfer 10Mbps neu uwch
  • £800 ar gyfer 30Mbps neu uwch

Os ydych chi’n rhan o gymuned wledig, efallai y gall Llywodraeth y DU helpu i’ch cysylltu â band eang all drosglwyddo data ar gyfradd gigabit.

Mae grantiau Allwedd Band Eang Cymru ar gael ar gyfer:

  • preswylwyr unigol
  • busnesau
  • sefydliadau trydydd sector

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Cynllun grant Allwedd Band Eang Cymru | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.