BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun grant Green Home Finance Accelerator

Bydd Green Home Finance Accelerator (GHFA), sy’n rhan o Net Zero Innovation Portfolio Llywodraeth y DU, yn darparu hyd at £20 miliwn o gyllid grant i gefnogi dylunio, datblygu a threialu ystod o gynigion cyllid sy'n annog effeithlonrwydd ynni domestig ac ôl-osod gwres carbon isel yn y sectorau perchen-feddianwyr a rhentu preifat. 

Mae'r GHFA yn annog banciau, cymdeithasau adeiladu a chwmnïau sy'n gweithio gyda'r rheiny yn y diwydiant cyllid i ddod at ei gilydd a chreu mwy o gynhyrchion cyllid gwyrdd a fydd yn helpu perchnogion tai i gryfhau effeithlonrwydd ynni eu cartrefi a lleihau allyriadau carbon sy'n gysylltiedig ag ynni. 

Bydd y gystadleuaeth yn dod i ben am 12pm ar 14 Rhagfyr 2022.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Home - GHFA (carbontrust.com)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.