BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru

“Rydyn ni am sicrhau mwy o gydraddoldeb a chynhwysiant i bobl LHDTC+, er mwyn inni fel cymuned deimlo’n ddiogel i fod yn ni ein hunain, yn rhydd rhag ofn, gwahaniaethu a chasineb.”

Dyna eiriau’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn, ochr yn ochr ag Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, i amlinellu sut yn union y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau, rhagolygon a sefyllfa pobl LHDTC+.

Wrth lansio Cynllun Gweithredu LHDTC+, sy’n tanlinellu bwriad Cymru i hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant i bobl LHDTC+, dywedodd y Dirprwy Weinidog mai dyma’r tro cyntaf i ymrwymiadau a oedd eisoes wedi’u gwneud gael eu tynnu ynghyd i osod amcanion mentrus ond realistig tuag at greu cymdeithas lle mae cynnwys a dathlu pobl LHDTC+ yn elfen gwbl ganolog.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolenni ganlynol:

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.